

Bangor City Hockey Club
Club Biography
Mae Clwb Hoci Dinas Bangor yn un o dimau hynaf Gogledd Cymru, ac ar y funud, mae ganddo dros 50 o aelodau.
Gall unrhyw un dros chwech oed gychwyn chwarae i’r clwb gan bod gennym nifer o wahanol gategorïau o ran oedrannau, yn ogystal a dau dîm dynion a dau dîm merched.
Mae tîm cyntaf y dynion yn chwarae ym mhumed adran y North West Hockey League ac mae tîm cyntaf y merched yn chwarae yn ail adran Cynghrair Gogledd Cymru.
Mae croeso i chwaraewyr newydd o bob gallu – yn enwedig rhai sydd erioed wedi chwarae o’r blaen, neu sydd heb wneud ers nifer o flynyddoedd.