

Cardiff Dragons FC
Club Biography
CPD Dreigiau Caerdydd yw'r unig clwb peldroed Lesbianaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol yng Nghymru. Crëwyd y clwb yn 2008. Mae'r clwb yn darparu amgylchedd cyfforddus a staff i unrhyw aelod LHDT+ cael mwynhau chwarae peldroed. Ein nôd yw hyrwyddo cyfranogiad, codi ymwybyddiaeth ym mhêl droed a gwella safon fitrwydd yn ein cymuned. Rydym yn ceisio herio homoffobia, deuffobia a thrawsffobia ym mhêl droed.
Rydym yn chwarae:
- Gemau Cynghreiriol, twrnamentau a Gemau cyfeilliol
- 11-pob-ochr, 5, 6 a 7-pob-ochr
- Gemau menywod, gwrywaidd a Gemau cymysg-ryw
Rydym yn cystadlu yng Nghynghrair GFSN sydd i dimoedd LHDT, Cynghrair Lazarou i'r dynion, a chynghrair ym Mryste i fenywod. Mae'r gemau yn cael eu chwarae yn lleol yn ogystal â ledled y wlad.
Rydym yn glwb gynhwysfawr ac mae ymaelodaeth ar gael i unrhyw un o unrhyw gallu sydd dros 18 mlwydd oed.
Nid am y pêl droed yn unig mae'r clwb, rydym yn griw cymdeithasol ac yn rhedeg nosweithau allan drwy gydol y tymor. Rydym yn gyfeillgar, llawn hwyl ac yn gynhwysfawr, felly dewch draw i sesiwn ymarfer neu cysylltwch am fwy o wybodaeth.